Union Cycliste Internationale

Logo'r UCI

Undeb seiclo proffesiynol ydy'r Union Cycliste Internationale (UCI) (Cymraeg: Undeb Seiclwyr Rhyngwladol), sy'n gorychwylio rasys seiclo yn y gymdeithas ryngwladol. Hi yw corff llywodraethu'r byd ar gyfer for rheolaeth y chwaraeon seiclo. Mae pencadlys yr UCI yn Aigle, Y Swistir.

Mae'r UCI yn dosbarthu trwyddedi rasio i reidwyr ac yn cadarnhau bod rheolau disgyblaethol yn cael eu dilyn, megis defnydd cyffuriau. Mae'r UCI hefyd yn rheoli dosbarthu rasys a graddfa safle bwyntiau mewn sawl disgyblaeth o seiclo gan gynnwys beicio mynydd, rasio seiclo ffordd a seiclo trac, ar gyfer dynion a merched, amatur a phroffesiynol. Mae hefyd yn gorychwylio Pencampwriaethau'r Byd – lle mae sawl gwlad yn cystadlu yn hytrach na thimau masnach – mewn amryw o ddosbarthiadau a chategoriau. Mae enillwyr y rasys hyn yn meddu'r hawl i wisgo crys enfys y flwyddyn ganlynol, a'r hawl i wisgo stribedi'r enfys ar goleri a chyffion eu crysau am weddill eu gyrfa.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search